P-06-1263 Rheoli llygredd sy’n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Keith Clarke, ar ôl casglu cyfanswm o 118 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
1. Cyflwyno moratoriwm ar unwaith o unrhyw unedau dofednod dwys newydd yn nalgylchoedd Afon Gwy ac Afon Hafren sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
2. Cadw rheolaeth lym ar y broses o wasgaru tail yn ôl y llwyth ffosffad yn y ddaear
3. Monitro lefelau ffosffad
4. Cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw achos o dorri deddfwriaeth llygredd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae ansawdd dŵr a bioamrywiaeth wedi gwaethygu yn y ddwy afon yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd lefelau uchel o nitradau a ffosffadau sy’n arwain at dwf algâu. Mae hyn wedi arwain at ddirywiad sylweddol mewn bioamrywiaeth. Llygredd o ddŵr ffo sy’n deillio o waith amaethyddol, yn enwedig o unedau dofendod dwys (IPUs), yw’r prif achos sy’n cyfrannu at fwy o lygredd yn yr afonydd hyn. Mae angen cadw rheolaeth lym ar lygredd sy’n deillio o waith amaethyddol ffermydd er mwyn atal trychineb ecolegol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Sir Drefaldwyn
· Canolbarth a Gorllewin Cymru